Yn y Wasg
Mae Planna Fwyd! wedi cael cryn sylw yn y wasg am ein gallu i wneud i bethau ddigwydd.
Rydym ni’n cael sylw’n aml am y ffordd rydyn ni'n gweithio, gan gymryd egin syniad, ei dyfu’n brosiect a’i weithredu’n llawn (fel Pecynnau Hadau Teulu TyfuDyfi). Yn fuan iawn daeth Planna Fwyd! i sylw’r gymuned ehangach o dyfwyr ac arweiniodd at nifer o gyfweliadau. Gobeithio ein bod wedi cyrraedd cynulleidfa amrywiol trwy siarad â S4C, The Guardian, Cylchgrawn Welsh Country, Cylchgrawn Permaculture, a hyd yn oed y teulu brenhinol!
Yn 2020, cynhaliodd The Guardian a Chylchgrawn Welsh Country gyfweliad gyda Planna Fwyd! gan gyhoeddi dwy erthygl am fyfyrdodau yn ystod y cyfyngiadau symud a'r twf mewn bwyd a dyfir gartref.
https://www.welshcountry.co.uk/homegrown-food-makes-a-comeback
Mae pecynnau Hadau Teulu TyfuDyfi wedi bod yn llwyddiannus, yn brosiect effeithiol ac effeithlon. Eleni [2021] dosbarthwyd pecynnau hadau i 500 o deuluoedd yn Nyffryn Dyfi. Yn 2020 enwebwyd y prosiect ar gyfer Gwobr Trawsnewid 2020, gan ddod yn ail.
Yn gynnar ym mis Mehefin 2020, bu’r Tywysog William a Kate Middleton yn siarad gyda mudiadau gwirfoddoli amlwg a buont yn siarad â ni! Roeddent yn dathlu gwirfoddoli a’r cyfraniad hanfodol y mae gwirfoddoli wedi’i wneud trwy gydol y pandemig, gallwch ein gweld yn siarad â'r pâr brenhinol yma:
Yn y podlediad diddorol hwn, mae Planna Fwyd! yn siarad gyda Seismic Wales:
https://soundcloud.com/seismicwales/welsh-communities-staying-strong-in-lockdown-ep-16
Mae'r pandemig wedi newid bywydau pawb, mae llawer o bethau a gymerwyd yn ganiataol bellach yn fwy gwerthfawr inni nag aur, er enghraifft, yn syml iawn teimlo pwrpas i’n bywydau. Ers i lawer golli eu bywoliaeth neu fynd ar ffyrlo oherwydd y pandemig, rhoddodd Byddin y Tir ffocws ac ymdeimlad o bwrpas - pethau oedd wedi bod ar goll i nifer ohonom. Mae ymarfer corff, mwynhau natur ac awyr iach yn gwneud byd o les i'n hiechyd meddwl. Yn yr erthygl hon, buom yn siarad â'r Ganolfan Technoleg Amgen am y budd a gafwyd wrth ddod at ein gilydd fel cymuned:
Darllen pellach: