TyfuDyfi

pecynnau hadau teulu

Mae TyfuDyfi yn gwneud pecynnau hadau ac yn eu dosbarthu am ddim i blant


Ers dechrau'r pandemig, mae'r prosiect wedi bod yn helpu teuluoedd lleol i fynd allan yn yr heulwen, tyfu hadau a chysylltu â'u bwyd.

Mae'r pecynnau hadau wedi'u llenwi â deg gwahanol fath o hadau llysiau a blodau bwytadwy. Mae pob un yn hwyl ac yn hawdd ei dyfu - o ffa dringo blasus a betys arian (chard), i nasturtiums lliwgar a blodau haul. Mae'r pecynnau hyn yn cael eu creu gyda chariad gan wirfoddolwyr a phobl ifanc o Biosffer Dyfi. Mae tyfu eich bwyd eich hun yn golygu bod y bwyd rydych chi'n ei fwyta yn ffres ac yn iach, ond mae hefyd yn lleihau'r defnydd o gynnyrch sy'n cael ei gludo o bellter. Mae TyfuDyfi yn gyffrous i annog cynaliadwyedd a gwytnwch yn ein cymuned.

Eleni, diolch i gefnogaeth gan EcoDyfi, bydd pecynnau hadau TyfuDyfi yn cael eu dosbarthu am ddim i bob teulu sydd â phlant ysgol gynradd yn Nyffryn Dyfi a'r ardaloedd cyfagos. Dyna tua 400 o deuluoedd! Mae'r pecynnau hadau wedi'u dosbarthu trwy ysgolion lleol, gyda'r gobaith y bydd hyn yn helpu'r hadau i gyrraedd y plant yn uniongyrchol ac yn sicrhau bod pob teulu sydd eisiau cymryd rhan yn gallu gwneud hynny.

Os oes gennych becyn hadau ac eisiau rhannu eich profiadau plannu, gallwch ddilyn TyfuDyfi ar Instagram @TyfuDyfi, a'u tagio yn eich llun, neu ychwanegu'r hashnod #TyfuDyfi. Byddem wrth ein bodd yn gweld eich lluniau!

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect a sut y gwnaethom ei gyflawni, clichiwch yma.