Blychau Llysiau Undod

Mae Blychau Llysiau Undod yn darparu llysiau a dyfir yn lleol i bobl fyddai’n ei chael hi'n anodd cael gafael arnynt fel arall

Treialwyd y prosiect yn llwyddiannus yn Hydref 2020, dan arweiniad Planna Fwyd! ac Cronfa Gyd-sefyll Corona Machynlleth. Rhedwyd y prosiect yn llwyr gan wirfoddolwyr. Rhoddwyd y llysiau a’r ffrwythau i gyd yn hael iawn gan dyfwyr lleol a gan ein groser cymunedol, Siop Blodyn Tatws.

Ein nod eleni yw darparu 15 o flychau gydag amrywiaeth o lysiau ffres ym mhob un, bob wythnos rhwng misoedd Mehefin a Thachwedd. Rydym yn gofyn i ffermwyr a thyfwyr lleol sydd â lle sbâr, ac a allai dyfu ychydig bach yn ychwanegol, i dyfu cnydau ar gyfer y Blychau Llysiau Undod. Unwaith y bydd y tymor tyfu’n dechrau, byddwn yn gofyn i ffermwyr a thyfwyr a allan nhw roi eu cynnyrch dros ben i'r Blychau. A byddwn yn parhau i gael ein cynnal gan dîm o wirfoddolwyr brwd!

Os hoffech wirfoddoli ar gyfer y prosiect hwn, neu gynnig eich sgiliau fel ffermwr i naill ai dyfu neu roi llysiau dros ben, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych!

Cysylltwch â ni: plannafwydplantfood@gmail.com