Adnoddau

Siop un alwad ar gyfer adnoddau sydd ar gael ym Miosffer Dyfi

Compost Potio a Chyflenwadau Garddio

Mae siop IG Owen (The Store) ym Machynlleth yn agored fel gwasanaeth hanfodol. Mae’r oriau agor fel arfer: dydd Llun i ddydd Gwener, 8yb – 5yp, dydd Sadwrn 8.30yb – 3.30yp.

Maen nhw wedi troi’r maes parcio yn y cefn yn ganolfan arddio ac mae ganddyn nhw ddigon o gompost hadau a rhai egin-blanhigion ar werth yn ogystal â hadau.

Rhif ffôn – 01654 702317

Mae Canolfan Arddio Camlan yn Ninas Mawddwy hefyd yn agored ac yn rhedeg gwasanaeth dosbarthu. Maen nhw’n dosbarthu i Fachynlleth bob dydd Iau.

Eu gwefan yw – http://camlan.cymru/news

Rhif ffôn – 01650 531 685

Hadau

Ar werth yn lleol:

Mae rhai hadau ar werth yn siop IG Owen (The Store) ym Machynlleth.

Mae Planna Fwyd! wedi ymuno â Dyfi Permaculture sy'n cynnig ac yn derbyn hadau. E-bostiwch dyfi.permaculture@gmail.com

Archebion hadau ar-lein:

Mae fel pe bai amserau aros hir ac amhenodol gan y rhan fwyaf o’r cwmnïau hadau mawr ar gyfer eu harchebion.

Y cwmni y bydden ni’n ei gymeradwyo ar y funud yw Vital Seeds sydd â’i gartref yn Nyfnaint. Maen nhw’n cynhyrchu hadau organig o safon uchel sydd wedi’u peillio’n agored a byddan nhw’n agor eu siop bob dydd am 9.00yb ac wedyn yn ei chau pan fydd ganddyn nhw ddigon o archebion i’r diwrnod. Os ydych yn gynnar, dylech fod yn gallu gosod archeb a bydd yn cael ei hanfon atoch heb ormod o oedi.

www.vitalseeds.co.uk

Mae cwmnïau hadau eraill yn cynnwys:

Tuckers https://edwintucker.co.uk/seeds/

The Organic Seed Catalogue https://www.organiccatalogue.com/seeds

Moles – https://www.wholesale.molesseeds.co.uk/

Tamar Organics- https://tamarorganics.co.uk/

Real Seeds: https://www.realseeds.co.uk/

Tail

Mae gan Dyfi Donkeys domen enfawr o dail wedi pydru drwyddi sydd ar werth.

Maen nhw’n gofyn i chi ddod â’ch bagiau a’ch offer eich hunain.

£1 am gwdyn maint sach porthiant anifeiliaid

£15 am sached ‘ddympi’ a £45 am lond trol fach.

Cysylltwch â Louise naill ai drwy destun i 07717020344

neu e-bostio dyfidonkey@btinternet.com

Gwasanaethau ar-lein am gyngor tyfu cartref

https://www.gardenersworld.com/

https://www.rhs.org.uk/advice/grow-your-own

Creu cynllun cnydau’n awtomatig – https://www.gardenfocused.co.uk/calendar-veg-personalised.php

Cynlluniwch eich plot llysiau ar-lein – https://vegplotter.com/

Amserlen hau Charles Dowding ar gyfer beth i’w hau a phryd – https://charlesdowding.co.uk/sowing-timeline-for-vegetables/

Mae’r grŵp Facebook ‘UK Organic Market Gardens’ yn ddefnyddiol iawn os am ofyn cyngor a chlywed cynghorion pobl eraill (ar gyfer tyfwyr masnachol yn unig). https://www.facebook.com/groups/1214414278648144/?ref=group_header

Huws Nursery ar YouTube. Sesiynau tiwtora manwl ar-lein ar dyfu llysiau gan Huw Richards, Tregaron. https://www.youtube.com/channel/UCeaKRrrpWiQFJJmiuon2WoQ

Tyfu_Ffrwythau_ym_Mhowys (1).pdf
Welsh Veg project final report final.docx

Yn 2009 a 2010, bu aelodau o grŵp tyfu Dyfi Valley Seed Savers yn treialu gwahanol fathau o lysiau o Gymru, ac yn ymweld â pherllannau ledled Powys, i asesu pa amrywiaethau fyddai fwyaf addas i’w tyfu ar ein tir hyfryd, sydd hefyd braidd yn llaith. Cymerwch gip ar y canlyniadau yn nogfen “Tyfu Ffrwythau ym Mhowys” a’r adroddiad Welsh Vegetable Project i ddysgu o brofiad tyfwyr lleol.

Os oes gennych adnoddau yr hoffech eu cynnig i dyfwyr, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â deunyddiau ac adnoddau, cysylltwch â ni: resourcesplannafwyd@gmail.com

Pob hwyl ar y tyfu!