Allfeydd

Prynu bwyd a gynhyrchir yn lleol yw'r ffordd fwyaf uniongyrchol o ddiogelu ein cyflenwad bwyd yn well fel cymuned.

Heb ein cefnogaeth ni, ni fydd y tyfwyr graddfa fach yn gallu parhau. Gallwch brynu cynnyrch lleol yn y mannau gwerthu isod, ac edrychwch ar ein map bwyd lleol rhyngweithiol i ddarganfod ble mae'n tyfu.

Siop Blodyn Tatws

Mae Siop Blodyn Tatws yn gwerthu cynnyrch organig yn bennaf a chymaint o gynnyrch lleol ag sy’n bosibl gan gynnwys ffrwythau lleol, llysiau lleol, wyau lleol, blodau lleol, mêl lleol a bara lleol. Archebwch eitemau penodol neu flwch llysiau/ffrwythau cymysg 3 diwrnod ymlaen llaw drwy’r ffurflen hon.

Casglu: 10yb-2yp dydd Mercher neu 10yb-2yp dydd Sadwrn

Talu drwy gerdyn digyffwrdd wrth y drws. Cadwch at reolau pellter cymdeithasol wrth gasglu.

9 Heol Maengwyn, Machynlleth. SY20 8AA

Tel: 07491 727228

Facebook page

Tyfwyr Ynys-las

Mae Tyfwyr Ynys-las yn darparu bagiau llysiau wythnosol (£13 mawr, £7 bach) sy’n cynnwys llysiau organig yn eu tymor gan gyflenwyr lleol lle bo’n bosibl ac fel arall gan gyfanwerthwr organig. Gallwch hefyd ychwanegu cynnyrch o Laethdy Dyfi (llaeth, caws, iogyrt, cyffug) a Rye and Roses (bara) a Grace Crabb a’i Chwmni (blodau).

I archebu’ch bagiau llysiau, cysylltwch â Sabrina ar:

01654 700115 neu vegbags@machmaethlon.org

Mannau casglu ym Machynlleth gyda chyfleusterau diheintio dwylo rhagorol a gwasanaeth dosbarthu cartref cyfyngedig yn bosibl.

Ffres a Lleol

Mae stondin farchnad Ffres a Lleol ar agor 9-1yp bob dydd Mercher yn y farchnad ym Machynlleth y tu allan i’r siop sgidiau, drws nesa i’r fan bysgod.

Mae’r stondin yn gwerthu ffrwythau a llysiau, wyau, cyffeithiau a phlanhigion bwytadwy o darddiad lleol (organig neu heb eu trin â chemegau gan mwyaf) i gyd yn syth oddi wrth y tyfwyr.

Arian sychion yn unig. Cadwch at y system unffordd a rheolau cadw pellter cymdeithasol wrth giwio.

Facebook page

William Lloyd Williams a’i Fab

Yn un o sefydliadau Machynlleth, mae’r busnes cigydda teuluol hen a pharchus yma yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch o ffermydd lleol. Mae Wil Lloyd hefyd yn rhedeg un o’r lladd-dai lleol annibynnol olaf yng Nghymru. Gyda mesurau diogelu rhag y coronafeirws mae’r siop ar agor rhwng 0700 a 1530.

5 Heol Maengwyn, Machynlleth. SY20 8AA

Tel: 01654 702106

Website

Tŷ Cemaes

Emporium, Cemmaes, Machynlleth. SY20 9PR

tycemaes@gmail.com

Website

Cletwr

Cletwr, Tre'r-ddol, SY20 8PN

Tel: 01970 832113

cletwr@cletwr.com

Website

Facebook Page

Camlan

Camlan, Dinas Mawddwy, SY20 9LN

Tel: 01650 531685

contact@camlan.cymru

Website

Facebook Page

Gwerthwch ein llysiau!

Os hoffech drafod ychwanegu eich busnes, cysylltwch plannafwydplantfood@gmail.com