Ymunwch â Planna Fwyd!

Mae aelodau Planna Fwyd! yn rhannu eu hamser, sgiliau, tir ac offer i weithredu’n gadarn dros y gymuned i gynhyrchu bwyd lleol.

Ymholiadau cyffredinol: plannafwydplantfood@gmail.com

Mae gynnon ni wahanol weithgorau y gallwch ymuno â nhw:

  • Tir: I ddod o hyd i dir i dyfu arno neu i gynnig tir ar gyfer tyfu, cysylltwch â plannafwydplantfood@gmail.com

  • Tîm Trefnu: I ymuno â'r tîm trefnu, cysylltwch â plannafwydplantfood@gmail.com Croeso i bawb!

  • Byddin y Tir: I wirfoddoli ar ffermydd lleol, cofrestrwch yma! plannafwydplantfood@gmail.com

  • Adnoddau: I ddarganfod ble i brynu neu ddod o hyd i bethau fel compost, hadau, deunyddiau ac ati. Os oes gennych chi unrhyw un o'r pethau hyn i'w cynnig i dyfwyr, cysylltwch â'r tîm adnoddau - resourcesplannafwyd@gmail.com

  • Cyfathrebu: I ysgrifennu neu recordio stori am Planna Fwyd! Cysylltwch â'r tîm cyfathrebu - communications.plannafwyd@gmail.com

  • Cyfnewid Hadau: I gyfnewid hadau, cysylltwch â Rhwydwaith Permaddiwylliant Dyffryn Dyfi http://dyfivalleypermaculture.org/

  • Tyfwyr Cartref: I glywed am weithdai ar-lein, Amser Cwestiynau i’r Garddwr, cynlluniau mentoriaid a chyngor ar sut i dyfu, cofrestrwch yma! plannafwydplantfood@gmail.com

  • Ffermwyr: I ymuno â'r grŵp ffermio ar raddfa cae gyda sesiynau rhannu sgiliau ffermwyr wythnosol ar Zoom a rhwydwaith o ffermwyr lleol eraill, e-bostiwch katie@machmaethlon.org

Prynu’n Lleol

I brynu’n cynnyrch ewch i'r dudalen Ar Waith i gael rhestr o werthwyr

I werthu ein cynnyrch, e-bostiwch distribution.plannafywd@gmail.com

English language website