Blog

Gwarcheidwaid Coed

Mis Medi 2021

Lynn Williams yn rhannu dull newydd ar gyfer gwarchod cnwd ffrwythau sy'n aeddfedu


Mae'r Cae yn Ffriddgate wedi'i neilltuo ar gyfer tyfu a bywyd gwyllt, ac ar ôl 20 mlynedd a mwy mae poblogaeth dda ac amrywiol o adar yno. Anfantais hyn yw eu bod yn mwynhau'r ffrwythau gymaint â ninnau!


Rhoddodd rhywun gyngor i mi, "rho dedi yn y goeden afalau". Felly eleni rwyf wedi casglu ychydig o gymeriadau blewog o'r siopau elusennol a'u gosod wrth ymyl y ffrwythau gorau er mwyn eu gwarchod.

Mae'n ymddangos ei fod yn gweithio!


Dydi’r heidiau o sgrechod y coed, pïod a mwyalchod ddim wedi cyrraedd, a dydi’r heidiau o ditwod tomos las sy'n gallu pigo twll ym mhob afal ddim wedi bod yn gwledda arnynt. Rwy'n rhannu coeden afalau surion gyda nhw, ac mae yna aeron ar y coed criafol a’r coed ceirios gwyllt yn y cae.

Rwyf eisoes wedi cynaeafu afalau cynnar (“George Cave”), ac yn gobeithio na fydd y ffrwythau dilynol yn cael eu difetha gan fod ganddynt warchodwyr!

Beth y gallwn ei blannu ym mis Medi

Mis Medi 2021

Tammi Dallaston o Dyfi Permaculture yn sôn beth i'w dyfu ym mis Medi


Medi... y mis hwnnw sy’n llawn atgofion pan welwn y nosweithiau yn dechrau tynnu i mewn, y golau’n newid yn lliw hydrefol, ac — i rai ohonom o leiaf — yr awydd i brynu offer ysgrifennu newydd fel yr oedden ni’n arfer ei wneud cyn mynd yn ôl i'r ysgol.


Yn yr ardd, bydd llawer ohonom yn tacluso ac yn rhoi llawer o ddeunydd ar ben y domen gompost. Mae'r pridd yn dal yn gynnes, felly mae'n amser delfrydol i fanteisio ychydig mwy ar eich gardd.

Faint ohonoch chi fydd yn plannu cnydau fydd yn rhoi cynnyrch i chi drwy'r gaeaf?


Mae'n well gan sbigoglys, coriander, dail berwr a rhai mathau o ddail letys bach dywydd oerach, felly gallech chi dyfu cnwd cyflym nawr, yn enwedig os oes gennych chi le cysgodol.


Dim ond 4 – 6 wythnos sydd ei angen ar radisys i aeddfedu, felly mae gennym amser o leiaf i hau un cnwd arall - ac os byddwch chi’n gadael iddynt flodeuo fe gewch chi godennau blasus crensiog.


Mae maip yn gnwd arall sy'n tyfu'n gyflym y gallwch ei hau yn y pridd ym mis Medi - maen nhw'n tyfu orau mewn amodau oer a llaith. Dylech eu cynaeafu mewn tua chwe wythnos pan maen nhw tua maint pêl golff, maen nhw’n berffaith ar gyfer cinio Nadolig.


Mae claytonia, neu borpin y gwanwyn, a gwylaeth yr oen (a elwir hefyd yn llysiau’r oen) yn flasus ac yn hawdd eu tyfu.

Claytonia / Porpin y Gwanwyn

Cêl Red Russian

Meillionen Waetgoch

Mae mis Medi hefyd yn amser da i blannu llysiau dros y gaeaf fydd yn barod erbyn gwanwyn nesaf.

Ewch ati i hau ffa yn yr hydref i’r planhigion gael cyfle i sefydlu eu hunain dros y gaeaf, fel y byddan nhw’n barod yn gynharach gwanwyn nesaf. Mae ffa a phys yn blanhigion caled, ond byddwch yn barod i roi gorchudd fflîs garddwriaethol drostynt os bydd y tymheredd yn llai na 10 gradd. Gallech chi blannu setiau winwns dros y gaeaf yn barod ar gyfer y gwanwyn, a garlleg hefyd.

Mae cêl yn gnwd gwydn sy’n gwrthsefyll tywydd oer. Yr oerni sy'n troi'r starts yn siwgr. Mae Red Russian a Siberian yn ddau fath da y gallwch eu tyfu yn y gaeaf.

Mae hefyd yn amser gwych i hau planhigion gwyrdd fel gwrtaith dros rannau noeth o’r pridd nes daw’r gwanwyn.

Mae’r feillionen waetgoch, sy’n aelod o'r teulu codlysiau, yn wych ar gyfer dal nitrogen o'r awyr, sy’n cael ei ddal yn y nodylau o amgylch ei wreiddiau gan fwydo’r pridd. Trwy blannu ym mis Medi caiff gyfle i sefydlu ei hun cyn i'r rhew ymddangos. Gallwch ei balu i mewn i’r pridd unrhyw bryd rhwng canol Ionawr a chanol Mawrth — pryd bynnag y bydd arnoch angen rywfaint o le ar gyfer cnydau y flwyddyn nesaf. Trwy wneud hyn, cedwir y maetholion ac mae strwythur y pridd yn gwella.

Gadewch i ni wybod beth ydych chi’n ei dyfu ar hyn o bryd! E-bostiwch ni neu cysylltwch â ni ar Facebook.

Bwyd yn y Pridd!

Mis Mai 2020

Mae’n digwydd! Yn wyneb argyfwng y coronafeirws ac ymwybyddiaeth gynyddol o natur fregus cadwyni cyflenwi bwyd, mae yna ymchwydd aruthrol mewn tyfu bwyd yn lleol. Wedi’i sbarduno gan gwestiynau newydd ynghylch o ble bydd bwyd Machynlleth yn dod yn ystod y misoedd nesaf, mae gweithgor Planna Fwyd! wedi’i ffurfio i harneisio’r ffrwydriad yma o egni i dyfu mwy o fwyd.

Mae Planna Fwyd! wedi gweld adfywiad ysbrydoledig o feddylfryd ‘palu dros fuddugoliaeth’, gyda phobl ar hyd Dyffryn Dyfi yn rhuthro i brynu hadau ac adeiladu gwelyau llysiau. Wrth i bobl droi eu sylw at ddod â mwy o fwyd o’r pridd, mae mudiad o ffermwyr newydd yn neidio ar eu tractorau i ddechrau cynhyrchu llysiau mewn caeau lleol. Mae ein Grŵp Ffermwyr Planna Fwyd! wedi ateb her dyfodol lle na allwn ni ddibynnu ar fewnforion bwyd, gan aredig tir newydd ac yn llythrennol hau’r hadau ar gyfer ein diogelwch bwyd yn ystod yr haf eleni. Mae eu gweithgareddau’n dipyn o donig i unrhyw un sy’n poeni a fydd llysiau ar ein platiau o hyd …

Glandyfi, Penegoes

Aeth Paul Bullen a chriw Glandyfi ati cyn gynted ag y dechreuodd yr argyfwng i greu gardd farchnad newydd. Gan ddefnyddio sglodion coed o fusnes dodrefn Paul a thail o ffermydd lleol, mae 40 o welyau newydd 15m ar eu hyd wedi’u creu ar y caeau gwastad ger Penegoes. Gyda thatws yn y pridd a hadau ar gyfer saladau, cêl a ffa dringo’n cael eu hau, yn y gwanwyn eleni mae Paul wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr i gael y safle hwn yn barod, a hynny o’r dechrau’n deg.

Melindwr

A hithau eisoes wedi sefydlu gardd farchnad ar ei fferm gymysg ym 2018, penderfynodd Kate Fenhalls fynd amdani go iawn y gwanwyn yma drwy aredig 600m2 o dir at gynhyrchu tatws a chennin. Mae Kate, ynghyd â gwirfoddolwyr Byddin y Tir, yn mynd ati i blannu â llaw Kestrel a Charlotte, mathau o datws sy’n gwrthsefyll malltod – dros 1,200 o datws hadyd. Hefyd mae ganddi 1,000 o fylbiau garlleg yn y ddaear ac yn hau 500 o blanhigion india-corn.

Mae Kate yn cydweithio â’r tyfwr lleol Chris Jackson a’r ceffyl gwaith lleol Hamish i ogedu a rhychu’r pridd. Cadwch lygad am y cnydau hyn ym magiau llysiau wythnosol Tyfwyr Ynys-las.

Cefn Coch

Mae Joe Hope yn rheoli Cefn Coch yng Nglaspwll er 2015. Mae’n cadw gwartheg yr ucheldir ac yn ymwneud â gwaith ecolegol i fonitro bywyd gwyllt lleol. Ochr yn ochr â’i gydweithwraig Jane Robertson, maen nhw wedi aredig ac ogedu ardal sydd bron 200m2 ac wedi hau 600 o blanhigion cêl i’w plannu ar y darn mwyaf gwastad o’u ffriddoedd. Dyma fenter arallgyfeirio newydd a chyffrous i’r fferm a rhywbeth y dewison nhw ei wneud er diogelwch y gymuned rhag ofn bod prinder bwyd.

Cydweithfa Dai Bodfrigan

Mae’r criw yng Nghydweithfa Dai Bodfrigan, Tre’r-ddôl, yn troi rhai o lawntiau eu lodj hela traddodiadol at gynhyrchu bwyd i’r gymuned. Dyma’r flwyddyn gyntaf iddyn nhw fynd ati i gynyddu cynhyrchiant ac maen nhw wedi aredig ardal oddeutu 200m2 yng nghae isa’r fferm ar gyfer cynhyrchu bresych a thatws. Maen nhw hefyd yn cyflwyno achles ffres i wella’r pridd i greu 36m2 o welyau sgwoshis yn ogystal â thyfu ychydig o fathau o rawn prin fel treial.

Lle tyfu newydd

Mae Sadie, Gareth ac Erannan wedi bod wrthi’n codi twnnel tyfu, ffensio a pharatoi gwelyau ar gyfer eu gardd farchnad newydd ar fferm ddefaid y tu allan i Fachynlleth. Gan adeiladu ar lwyddiant eu busnesau saladau a dipiau llysiau Gardd Farchnad Dwylo Da a Calon Dyfi a sefydlwyd tra oedden nhw’n cymryd rhan yn hyfforddiant Llwybrau at Ffermio, maen nhw’n ehangu eu menter. Byddan nhw’n darparu cynnyrch ffres drwy siop Blodyn Tatws eleni ac maen nhw’n barod i helpu i ateb y galw cynyddol am lysiau lleol sydd wedi’u tyfu heb gemegau.

Cae Tatws

Mae Sam, Katie a Gareth wedi paratoi a phlannu cae tatws newydd yn Nyffryn Dyfi. Gyda help y ffermwr lleol Dylan Owen i aredig y tir iddyn nhw ar ei hen dractor tramor, mae dros 300 cilo o datws Orla, Pink Fur Apple a Cara yn y pridd. Y gobaith yw cael 5 tunnell o helfa, felly croesi bysedd am dymor da!

Llwybrau at Ffermio

Eisoes yn cymryd rhan yn hyfforddiant Llwybrau at Ffermio ar gyfer tyfwyr masnachol newydd pan ddechreuodd yr argyfwng, mae’r hyfforddeion Kait, Ruth, Ian, Claire, Emma, Heather, Pete, Lisa, James a Tara yn rhoi tân dani. Yn dilyn gaeaf o gynllunio’n ofalus ba gnydau i’w plannu, mae’r tyfwyr hyn wedi rhuthro i ymgymryd â dwbl maint y tir bron na’u bwriad gwreiddiol. Gan ddefnyddio plotiau yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, Cae Ffriddgate, Gardd Gymunedol Cultivate a Chymuned Esgair, maen nhw’n plannu amrywiaeth anferth o gynnyrch, o datws i ficro-wyrddlysiau. Bydd y cnydau hyn yn cyflenwi mannau gwerthu ym Machynlleth, yn ogystal â Thywyn a Chynllun Blychau Llysiau yn y Drenewydd.

Yn dilyn cau Canolfan y Dechnoleg Amgen yn ddiweddar oherwydd y pandemig, mae’r hyfforddeion hyn hefyd wedi ymgymryd â gwarchod cnydau dros yr hen dyfwr profiadol Roger McLennan nes ei fod yn gallu dychwelyd i’w gae cynnyrch hirsefydlog yn edrych dros Ddyffryn Dulas.

A waeth i ni beidio ag anghofio’r cynhyrchwyr bwyd sydd eisoes yn yr ardal ac sydd wedi bod yn gweithio oriau hir, gwanwyn ar ôl gwanwyn, i ddod â llysiau lleol i’n stondinau marchnad, siopau a chaffis lleol…

Gardd Einion

Mae Gardd Einion wrthi’n cynhyrchu blas ac ansawdd cyson o’u tir yn Ffwrnais ers 10 mlynedd. Yn tyfu amrywiaeth anferth o fwyd, maen nhw’n arbenigo mewn ffa Ffrengig, tomatos a tsilis, i gyd wedi’u tyfu mewn cors sy’n wynebu’r gogledd! Ffermwyr penigamp yw Ann a John Owen sy’n rhoi’n hael ac yn helaeth i helpu mentrau lleol fel Mach Maethlon yn ogystal â bod yn drefnwyr/aelodau o gynllun Blychau Llysiau Tyfwyr Ynys-las. Cadwch lygad am eu bwyd yn Siop Gyfanfwyd Dyfi, Ffres a Lleol a Siop Gymunedol Cletwr.

Ffriddgate

Mae Lynn yn tyfu yng Nghae Ffriddgate ers newid y borfa ddefaid yn lle i dyfu ym 1999. Erbyn hyn, tua chwarter hectar yw maint y safle sy’n cynnwys gofod tyfu a choed ffrwythau ynghyd ag ardal goediog i fywyd gwyllt. Mae’r plot sydd wedi’i ffensio’n cael ei rannu â phobl eraill gan gynhyrchu amrywiaeth o gnydau: cennin, nionod, tatws, ffa, cêl a brocoli ynghyd â saladau i enwi ond ychydig. Tyfir ffrwythau meddal fel cyrens duon, mafon, mefus a mwyar duon at wneud jamiau, tsiytnis a phiclau neu eu gwerthu wrth y giât neu stondin Ffres a Lleol ym Marchnad Machynlleth. Yn ôl Lynn, “Dw i’n ddiolchgar i’r bobl hynny sydd wedi fy helpu i gadw’r plot i fynd dros yr 20 mlynedd diwetha gyda’u llafur cyflog a gwirfoddol. Ac i’r ffermwyr lleol am ddarparu tail pan fydd gwneud compost jyst ddim yn ddigon. Diolch yn fawr!”

Tir Annie

Y safle Datblygu Un Blaned cyntaf i gael ei gymeradwyo ym Mhowys yw Tir Annie. Maen nhw’n cyflenwi cynnyrch ffres ym Machynlleth ers sawl blwyddyn bellach, o 800tr. uwchben lefel y môr. Eleni mae Annie wedi ehangu’r ochr cynhyrchu ffrwythau drwy ychwanegu 35 o goed cyll, 35 o goed afalau treftadaeth Gymreig a 30 o blanhigion mefus. Maen nhw hefyd yn ehangu’r ochr cynhyrchu llysiau drwy estyn yr ardal lysiau 75m2.

Rŵan, yn fwy nag erioed, rhaid i ni gefnogi’r ffermwyr hyn i’n bwydo. Prynwch yn lleol. Cefnogwch ffermwyr. Plannwch fwyd!

Ymunwch â’r chwyldro tyfu bwyd! Cwblhewch Ffurflen Cymerwch Ran! i gynnig eich tir, sgiliau, amser neu egni. Gyda’n gilydd gallwn fwydo’r fro.

Mae'r blogbost hwn wedi canolbwyntio'n benodol ar gynhyrchu llysiau. Byddem wrth ein bodd yn ysgrifennu am yr holl waith da sy'n cael ei wneud mewn sectorau cynhyrchu bwyd eraill fel da byw, llaeth a âr. E-bostiwch ni i roi gwybod i ni am waith cynhyrchu bwyd i ddathlu!