Cymerwch ran!

Mae nifer fawr o ffyrdd y gallwch ein helpu i gynyddu cynhyrchiant bwyd lleol, beth bynnag yw eich sgiliau a'ch diddordebau.

Ymunwch â ni!

Mae gennym gyfarfod wythnosol ar Zoom lle gallwch gwrdd â gwirfoddolwyr eraill (dyna bawb yn Planna Fwyd!). Mae'n hynod o gyfeillgar a difyr, ac mae gennym system gyfeillio ar gyfer newydd-ddyfodiaid, felly wnewch chi ddim mynd ar goll.

Mae gennym hefyd grŵp WhatsApp anffurfiol a rhestr e-bost y gallwch ymuno â nhw i gadw mewn cysylltiad a chlywed y diweddaraf.

Planna Fwyd!

Ac os na allwch ei dyfu... prynwch fwyd a dyfir yn lleol!

Os oes gennych gwestiwn neu os hoffech wybod mwy, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych! Cysylltwch â ni: plannafwydplantfood@gmail.com