Mae Planna Fwyd! Plant Food! yn fenter cymunedol sydd am gynyddu maint y bwyd a dyfir yn ardal Machynlleth yn sylweddol, fel ymateb i goronafeirws. Rydym yn gymdeithas o ffermwyr, darpar-ffermwyr, tyfwyr cartref a gwirfoddolwyr.
Mae aelodau Planna Fwyd! Plant Food! yn rhannu eu hamser, eu sgiliau, eu tir a’u hoffer er mwyn creu cymuned leol gref sy’n cynhyrchu bwyd lleol.
Gweithredoedd Lleol
Creu rhestr o dir potensial
Cefnogi Ffermwyr (Hen a Newydd)
Dod â ‘byddin y tir’ o bobl all weithio ar y tir ynghyd
Cefnogi tyfwyr cartref gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol arnynt
Darparu pacedi hadau teuluol
Dosbarthu cynnyrch ffres
Cynnig cyfnewidfeydd hadau
Creu cynllun cnydau ar hyd Bro Ddyfi (er mwyn cynhyrchu amrywiol)
Rhannu’r adnoddau sydd ar gael, e.e. tractorau, treilars a mwy